Greater Horseshoe Bats

Article By Mary Chadwick


Greater horseshoe bats (Rhinolophus ferrumequinum)

Greater horseshoe bats are a conservation success story in North Pembrokeshire. A new maternity roost was discovered near Tudrath / Newport in the year 2000, only the third to be found in Wales and the most northerly one in Europe. 50 adult bats were counted that year. By 2025, numbers had grown to an outstanding 992.


The spectacular growth has caused them to spread into new underground sites, such as caves and mine adits, for hibernation and ‘cool’ roosting all year round. Many are disturbed by people exploring (often encouraged by social media). Waking a bat during hibernation forces it to use up valuable fat reserves which it cannot replace, jeopardising its chances of surviving the winter.

Eifion Thomas, a talented, fifth-generation blacksmith from Dinas, made bespoke steel railings to fit perfectly in the rock cuttings leading to two such caves. They have lockable gates allowing licensed ecologists to carry out surveys but prevent unauthorised access.

Funding was also used to undertake urgent remedial works on Newport Castle, a Scheduled Ancient Monument with six separate bat hibernation sites.
It was a Nature Networks Fund project with Pembrokeshire Bat Group helping the Pembrokeshire Coast National Park Authority.


Ystlumod pedol mwyaf (Rhinolophus ferrumequinum)


Mae ystlumod pedol mwyaf yn stori o lwyddiant cadwraeth yng Ngogledd Sir Benfro. Darganfuwyd clwydfan fagu newydd ger Trefdraeth yn y flwyddyn 2000, dim ond y drydedd glwydfan yng Nghymru a’r un fwyaf gogleddol yn Ewrop. Cyfrifwyd 50 o ystlumod oedd yn oedolion y flwyddyn honno. Erbyn 2025, roedd y niferoedd wedi tyfu i 992, sy’n nifer anhygoel.

Mae’r twf syfrdanol wedi peri iddynt ymledu i safleoedd tanddaearol newydd, megis ogofâu a cheuffyrdd mwyngloddiau, ar gyfer gaeafgysgu a chlwydo ‘oeraidd’ gydol y flwyddyn. Mae nifer yn cael eu haflonyddu gan bobl sy’n archwilio (a anogir yn aml gan y cyfryngau cymdeithasol). Mae deffro ystlum yn ystod gaeafgysgu yn ei orfodi i ddefnyddio cronfeydd braster gwerthfawr na all eu hail-greu, gan beryglu ei siawns o oroesi’r gaeaf.

Roedd Eifion Thomas, gof talentog y bumed genhedlaeth o Dinas, wedi gwneud rheiliau dur pwrpasol i ffitio’n berffaith yn y toriad yn y graig sy’n arwain at ddwy ogof sy’n gartref i ystlumod. Mae’r rheiliau hyn yn cynnal gatiau â chlo sy’n caniatáu i ecolegwyr trwyddedig wneud arolygon ond yn atal mynediad heb ganiatâd.

You can download this article as a PDF Document:

Similar Posts